Sut mae allforio fy negeseuon e-bost? (Outlook)

Dim ond o Microsoft Outlook ar gyfrifiadur y gellir allforio eich e-byst. Dim ond yn Microsoft Outlook ar gyfrifiadur arall y byddwch yn gallu agor eich e-byst wedi'u hallforio. Gall staff a myfyrwyr gosod Microsoft Office ar eu cyfrifiadur am ddim sy'n cynnwys Microsoft Outlook. Bydd eich trwydded ar gyfer Microsoft Office yn dod i ben pan fyddwch yn gadael y Brifysgol.

  • Agorwch Microsoft Outlook
  • Cliciwch File ar y chwith uchaf
  • Cliciwch ar Open & Export yna Import/Export
  • Cliciwch Export to a file yna Next
  • Dewiswch Outlook Data File (.pst) a chliciwch Next
  • Cliciwch y saeth nesaf at eich cyfeiriad e-bost i weld eich holl ffolderi. Cliciwch ar y ffolder rydych chi am ei allforio. Os byddwch yn clicio ar eich cyfeiriad e-bost yna bydd yn allforio pob ffolder
  • Dewiswch leoliad y ffeil wrth gefn. Yn ddiofyn, bydd y ffeil yn cael ei chadw yn eich ffolder Dogfennau. Gallwch ddod o hyd i'r ffeil yn y ffolder hwn ar ôl i'r allforio gael ei gwblhau
  • Cliciwch Finish ac aros i'r allforio orffen
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk