Sut mae recordio rhaglenni yn BoB?

Gallwch wneud uchafswm o 20 cais i recordio bob dydd. Os oes cwsmer BoB arall eisoes wedi recordio rhaglen, neu wedi trefnu i raglen gael ei recordio, bydd modd i chi weld y rhaglen hefyd.

The nine most popular channels are listed first, with all content automatically recorded after broadcast.

I recordio rhaglen

  • Mewngofnodwch i BoB
  • Dewch o hyd i'r rhaglen drwy'r canllaw i raglenni neu'r offer chwilio, ac yna cliciwch ar Record

Efallai y gofynnir i chi wneud cais am raglen o Archif y BBC – mae'n bosibl y gallai gymryd rhai oriau i'r cynnwys fod yn barod i'w wylio.

Mae byffer recordio o 30 diwrnod i roi mwy o amser i chi recordio rhaglenni a fethwyd.

Pan fyddwch yn defnyddio'r canllaw i raglenni, dyma'r allwedd i'r lliwiau ar y rhaglenni gwahanol:

  • Llwyd: Ar gael i recordio
  • Coch: Wedi'i amserlennu i recordio, ond heb ei ddarlledu eto
  • Ambr: Wedi'i amserlennu i recordio ac yn y ciw trawsgodio. Gall y rhaglenni hyn gymryd hyd at 12 awr o ddiwedd y darllediad i fod ar gael i'w ffrydio
  • Gwyrdd: Ar gael i wylio nawr. Mae'r rhaglenni hyn wedi'u recordio eisoes. Cliciwch ar Add to Playlist, neu cliciwch ar View i gael y manylion.

Cewch ragor o gymorth gan BoB

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk