Sut mae creu dolen i adran mewn rhestr ddarllen Aspire?

Efallai yr hoffech greu dolen i adran benodol yn eich rhestr ddarllen Aspire o ddeunyddiau dysgu eraill e.e. yn Blackboard.

Yn Blackboard ewch i dudalen Gynnwys y Cwrs ar gyfer y Modiwl yr hoffech weithio arno.

  • Yn Course Content, cliciwch ar y botwm + 

  • Yn y ddewislen sy'n ymddangos cliciwch ar Additional Tools

  • Cliciwch ar Rhestr Darllen / Reading Lists

  • Dewch o hyd i ganlyniadau'r rhestr a awgrymir gyda'r cyfnod amser mwyaf diweddar a chliciwch ar y botwm Select section drws nesaf iddo. 

  • Cliciwch ar Embed section. Gallwch weld rhagolwg o restr cyn ei hychwanegu. 

  • Llusgwch a gollwng y ddolen i'r rhestr ddarllen yr ydych wedi'i chreu fel ei bod yn y safle cywir. 

Os nad yw'r ddolen gywir yn ymddangos yn y rhestrau a awgrymir gwnewch yn siŵr ei bod wedi'i chreu gan ddefnyddio'r Canllaw Llyfrgell. Os yw'r rhestr wedi'i chreu ac nad yw'n ymddangos darllenwch y Cwestiwn Cyffredin.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os hoffech gael apwyntiad â llyfrgellydd pwnc ebostiwch: librarians@aber.ac.uk

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk