Sut mae adfer dogfen yr wyf wedii dileu mewn camgymeriad o SharePoint?

  • Llywiwch i’r safle yr ydych wedi dileu’ch dogfen ohono
  • Cliciwch ar y gocsen ar frig y dudalen ar yr ochr dde:

  • Dewiswch Cynnwys Safle o’r ddewislen sy’n ymddangos
  • Bydd hyn yn dangos yr holl wahanol elfennau yn eich safle – ar frig y dudalen yn y gornel dde cliciwch ar y ddolen o’r enw BIN AILGYLCHU:

  • Fe welwch restr o’r dogfennau yr ydych wedi’u dileu
  • Ticiwch y blwch drws nesaf i’r ddogfen yr hoffech ei hadfer a dewiswch Adfer Dewis:

  • Bydd eich dogfen yn cael ei hadfer i’r ffolder y cafodd ei dileu ohono

Noder: - y cyfnod cadw a osodwyd gan Microsoft ar gyfer dogfennau a ddilëwyd yw 90 diwrnod

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk