Sut mae mewnosod recordiadau teledu a radio yn Blackboard?

Gallwch wneud a/neu gael mynediad i recordiadau o raglenni teledu drwy'r gwasanaeth Box of Broadcasts - i gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio Box of Broadcasts, edrychwch ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Box of Broadcasts.

Gellir mewnosod recordiadau i weddalennau, gan gynnwys eitemau cynnwys Blackboard. Mae'r cyfarwyddiadau isod yn rhoi manylion am y broses hon:

  • Dewch o hyd i recordiad o'r rhaglen yn Box of Broadcasts.
  • Cliciwch ar y botwm Embed o dan y chwaraewr rhaglenni.

  • Yn y blwch sy'n ymddangos, dewiswch Embed  a chopïwch y cod i'r clipfwrdd (Ctrl+C).

  • Llywiwch i'r ardal gynnwys yn Blackboard yr hoffech ychwanegu'r clip iddi.
    • Daliwch gychwr eich llygoden dros yr arwydd ychwanegu porffor a chlicio ar Create. Dewiswch Document.

    Blackboard content item

    • Dewiswch Add HTML

    Content creation image.

    • Gludwch y cod yn y golygydd testun a chlicio ar Save.

    Code URL pasted

    • I sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu gweld y cynnwys, dewiswch Visible to students:

    Visible to students

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk