Sut ydw i'n amgryptio fy ngyriant USB (Windows)?

**Noder** - Bydd gweithfannau staff yn gofyn i chi'n awtomatig i amgryptio eich dyfais pan fydd wedi'i blygio i mewn. Fe'ch cynghorir i amgryptio eich gyriant USB pan fyddwch yn defnyddio gweithfannau staff. Os nad ydych yn gwneud, bydd eich ffeiliau wedi'u cyfyngu i'r fformat Darllen yn Unig.

  • Mewnosodwch y gyriant USB
  • Cliciwch ar Start ac yna ar Computer neu File Explorer
  • Cliciwch fotwm de'r llygoden ar y gyriant USB ac yna cliciwch ar Turn On BitLocker
  • Dewiswch un neu fwy o'r dewisiadau canlynol, yna cliciwch ar Next:
    • Defnyddio Cyfrinair i Ddatgloi'r Gyriant Hwn
      Dewiswch y dewis hwn os hoffech i'r defnyddiwr orfod rhoi cyfrinair i ddatgloi'r gyriant. Mae cyfrineiriau'n caniatáu i yriant gael ei ddatgloi mewn unrhyw leoliad ac i gael ei rannu â phobl eraill.
    • Defnyddio fy Ngherdyn Clyfar i Ddatgloi'r Gyriant
      Dewiswch y dewis hwn os hoffech i'r defnyddiwr ddefnyddio cerdyn clyfar a rhoi rhif PIN cerdyn clyfar i ddatgloi'r gyriant. Oherwydd bod y nodwedd hon angen darllenwr cerdyn clyfar, caiff ei defnyddio fel arfer i ddatgloi gyriant yn y gweithle ac nid ar gyfer gyriannau a ddefnyddir y tu allan i'r gweithle.
  • Ar y dudalen nesaf cliciwch ar Save To A File
  • Dewiswch leoliad cadw a chliciwch ar Save
  • Nawr gallwch argraffu'r allwedd adfer os hoffech. Pan fyddwch wedi gorffen, cliciwch ar Next
  • Cliciwch ar Start Encrypting. Peidiwch â thynnu'r gyriant fflach USB nes bod y broses amgryptio wedi gorffen. Mae'r amser a gymerir i'r broses amgryptio orffen yn dibynnu ar faint y gyriant a ffactorau eraill.

Mae'r broses amgryptio'n gwneud y canlynol:

  • Ychwanegu ffeil Autorun.inf, y darllenwr BitLocker To Go, a ffeil Read Me.txt i'r gyriant fflach USB.
  • Creu cyfaint rhithwir gyda chynnwys llawn y gyriant yn y lle gwag sydd ar ôl ar y gyriant.
  • Amgryptio'r cyfaint rhithwir i'w ddiogelu. Mae amgryptio gyriant fflach USB yn cymryd tua 6 i 10 munud fesul gigabeit i gwblhau. Gellir oedi'r broses amgryptio ac ailddechrau os ydych chi'n cadw'r gyriant i mewn.

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk