Sut mae gwneud copiau wrth gefn om ffeiliau?

Nid yw Gwasanaethau Gwybodaeth yn argymell eich bod yn storio dogfennau ar yriannau caled lleol neu allanol neu yriannau USB. Os felly, dylech sicrhau eich bod yn gwneud copi wrth gefn yn rheolaidd ac nad ydych yn dibynnu ar un copi.

Opsiynau wrth gefn ar gyfer myfyrwyr a staff presennol

  • OneDrive
    Mae gan fyfyrwyr a staff 1TB o storfa cwmwl ar gyfer eu negeseuon e-bost a'u ffeiliau yn eu cyfrif Office 365. Mae defnyddwyr yn gallu dychwelyd i fersiynau blaenorol o ffeiliau ac adfer ffeiliau sydd wedi'u dileu am hyd at 93 diwrnod. Mwy o wybodaeth am ddefnyddio OneDrive
  • Storfa Ffeiliau Personol y Brifysgol (gyriant M) 
    Mae gan fyfyrwyr a staff 10 GB o storfa yn eu storfa ffeiliau personol (gyriant M). Mae eich gyriant M yn cael ei gysylltu'n awtomatig pan fyddwch yn mewngofnodi i unrhyw gyfrifiadur Prifysgol sydd wedi'i gysylltu â rhwydwaith PA. Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwneud copi wrth gefn o'ch gyriant M yn rheolaidd. Mwy o wybodaeth am eich Storfa Ffeiliau Prifysgol

Myfyrwyr a staff sy'n gadael Prifysgol Aberystwyth

Ni fydd gan staff a myfyrwyr sy'n gadael Prifysgol Aberystwyth fynediad i'w gyriant M nac i OneDrive mwyach. Bydd angen i chi gopïo unrhyw ffeiliau yr hoffech eu cadw yn rhywle arall. Os ydych yn copïo i yriant allanol, ni ddylech ddibynnu ar un gyriant ar gyfer storio hirdymor. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw sawl copi o'ch copïau wrth gefn:

  • Storfa cwmwl personol e.e. iClolud, Dropbox
    Mae rhai gwasanaethau yn cynnig storfa am ddim hyd at derfyn penodol ond wedyn yn dod yn wasanaethau taledig. Bydd maint y storfa sydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar faint y ffeiliau y mae angen i chi eu storio
  • Gyriant caled allanol 
    Mae'r cynhwysedd storio yn amrywio. Gall adrannau brynu gyriannau caled allanol ar gyfer eu haelodau staff drwy is-sales@aber.ac.uk
  • Gyriant USB (storfa dros dro)
    Nid ydym yn argymell gyriannau USB ar gyfer storio wrth gefn hirdymor ond maent yn ddefnyddiol ar gyfer trosglwyddo ffeiliau i gyfrifiadur arall
    Mae'r cynhwysedd storio yn amrywio. Gellir defnyddio gyriannau USB ar unrhyw gyfrifiadur sydd â phorth USB. Mae gyriannau USB ar gael i'w prynu gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. ( Sut mae cadw dogfen ar fy gyriant USB? )

 

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk