Sut ydw i'n dewis cyfrinair addas?

Meini prawf cyfrinair

Rhaid i’ch cyfrinair fod:

  • o leiaf 14 nod
  • dim mwy na 64 nod
  • cynnwys o leiaf un llythyren
  • cynnwys o leiaf un rhif

os dymunwch, gallwch ddefnyddio unrhyw un o'r nodau ddi-alffaniwmerig canlynol: ! @ # : ? > < , . / ; ' ` [ = - \ ] ) & ( ^*_+{ ~|}

Dewis cyfrinair sydd yn iawn i chi

  • Ni ddylech ddefnyddio cyfrinair rydych wedi defnyddio ar wefannau neu wasanaeth eraill ar gyfer eich cyfrif Prifysgol Aberystwyth
  • I greu cyfrinair cryf, defnyddiwch dri gair ar hap ac ychwanegwch rai rhifau a/neu symbolau
    Er enghraifft:- downswalkday20
  • Defnyddiwch eiriau sy'n gofiadwy i chi
  • Osgoi defnyddio geiriau y gallai eraill eu dyfalu'n hawdd. Er enghraifft, enwau unrhyw un o'ch teulu, anifeiliaid anwes, eich cartref, ac ati; eich man geni, hoff gyrchfan wyliau neu rywbeth sy'n gysylltiedig â'ch hoff dîm chwaraeon

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk