Sut ydw i'n gofyn am ddeunydd i'w gael ei ddigideiddio?

Mae’r Llyfrgell yn cynnig gwasanaeth digideiddio adnoddau sydd ar y rhestrau darllen. Gall penodau o lyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion gael eu sganio ac yna caiff y copi digidol ei gysylltu’n uniongyrchol â’r rhestr ddarllen a bydd ar gael i’r myfyrwyr. Mae’n rhaid i staff academaidd wneud cais i ddigideiddio deunydd drwy restr darllen eu modiwl ar Aspire.

Os oes angen i bennod neu erthygl gael ei ddigideiddio:

  • Rhowch yr adnodd ar y rhestr ddarllen Aspire fel Pennod (Sut mae gwneud hynny?) neu Erthygl (Sut mae gwneud hynny?)
  • Cliciwch ar y botwm drws nesaf i’r adnodd yr hoffech ei ddigideiddio.
  • Dewiswch Gwneud cais i ddigido

  • Llenwch yr holl feysydd sydd wedi’u marcio â *

  • Cliciwch ar Nesaf ar ôl llenwi’r holl feysydd
  • Rhowch Enw’r Cwrs a Chod y Cwrs os nad ydynt wedi’u llenwi’n awtomatig
  • Nesaf
  • Gwiriwch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir, yna cliciwch ar Nesaf
  • Cliciwch ar Cau ar y dudalen olaf
  • Bydd eich cais nawr yn cael ei gyflwyno i’r llyfrgell i’w brosesu

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk