Sut ydw i'n defnyddio chwyddhadur Merlin Elite Pro yn Cuddygl E1 Llyfrgell Hugh Owen?

Mae'r chwyddhadur hwn ar gael i'w ddefnyddio yn Cuddygl E01 yn Llyfrgell Hugh Owen

Cyflwyniad i'r offer

1. Botwm Pŵer

2. Seinyddion

3. Jac Clustffonau

4. Opsiynau Cyferbynnedd

5. Yn fyw/botwm OCR gweld ac olwyn Zoom

Defnyddio'r offer

  • Pan fyddwch yn pwyso'r botwm pŵer rydych yn y modd byw yn awtomatig
  • Yn y modd hwn gallwch osod llyfr ar yr hambwrdd a defnyddio'r deial ar y sgrin neu'r pellrheolwr i chwyddo i mewn ac allan.
  • Mae'r hambwrdd yn symud i mewn ac allan ac i'r dde a’r chwith pan gaiff yr handlen ei gwthio i mewn.
  • Gallwch dynnu llun drwy dynnu'r panel ar y pellrheolwr a dal y botwm camera.

 

Pwyswch y  botwm canol ar y monitor i newid i'r modd OCR.

Alinio'r dudalen gyda'r blwch ffinio yna pwyswch fotwm canol ar y pellrheolwr.

(Os yw'r panel wedi'i dynnu oddi ar y rheolydd, bydd angen i chi bwyso'r botwm OCR yn lle hynny)

Bydd yn prosesu'r dudalen ac yna'n dechrau darllen, gallwch reoli hyn gan ddefnyddio'r pellrheolwr.

Gyda'r clawr ymlaen, mae'r rheolydd yn y modd sylfaenol.

Gellir cadw'r botwm canol i mewn i chwyddo ac  allan i ddod o hyd i rywbeth, ac yna bydd yn dychwelyd i lefel chwyddo flaenorol.

Gellir defnyddio'r olwyn ar y Marcwyr â labeli cywir i newid cyflymder darllen i'r testun siarad. Gellir clicio ar yr olwyn hon hefyd i ddileu tudalennau neu ddelweddau sydd wedi'u cadw.

 

Defnyddir botwm 5 i ddechrau prosesu'r OCR

Daliwch fotwm y llyfrgell i weld delweddau a thudalennau a gadwyd yn flaenorol.

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk