Rwyn ymweld â Phrifysgol arall, a fyddaf yn medru defnyddio eu cyfrifiaduron?

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o wasanaeth Janet Roaming Service .

Mae hyn yn golygu bod defnyddwyr Prifysgol Aberystwyth yn medru cysylltu eu cyfrifiaduron eu hunain i rwydwaith pan yn ymweld â sefydliadau eraill yn y DG sy’n rhan o’r gwasanaeth ( Pa rai yw’r rhain? ) neu yn rhyngwladol ( Ble mae’r rhain? ). Bydd angen ichi osod Gwasanaeth Janet Roaming ar eich cyfrifiadur cyn gadael Aberystwyth.

  • Edrychwch i weld os yw’r sefydliad yr ydych yn ymweld ag ef yn rhan o’r gwasanaeth – gweler uchod.
  • Ffurfweddwch eich cyfrifiadur:
  • Unwaith eich bod wedi cysylltu bydd gennych fynediad i’r un adnoddau rhwydweithiol ag sydd ar y campws yn Aberystwyth.
  • Fe’ch atgoffir eich bod, tra’n defnyddio Gwasanaeth Janet Roaming, yn rhwym i Reolau a Rheoliadau’r Brifysgol

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk