Sut i agor Primo VPN?
I agor Primo VPN
- Ewch i Primo, catalog y llyfrgell, a Mewngofnodi gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair Aber
- Yn yr un porwr ewch i Primo VPN a chliciwch ar y botwm Mewngofnodi
Pan fyddwch wedi gorffen ymchwilio gyda Primo VPN, cofiwch gau eich porwr oherwydd gall Primo VPN effeithio ar fynediad i adnoddau eraill.
Bydd ar y myfyrwyr a’r staff hynny nad ydynt yn gallu defnyddio GlobalProtect VPN angen Primo VPN er mwyn gallu defnyddio’r adnoddau hyn oddi ar y campws.
- American Institue of Physics (AIP)
- American Physical Society (APS)
- American Society for Microbiology (ASM)
- BBC Listener Research Department
- Bibliography of British and Irish History & International Medieval Bibliography (BBIH & IMB)
- CABI
- Incorporated Council of Law Reporting (ICLR)
- MathSciNet
Bydd adnoddau y mae angen Primo VPN er mwyn eu defnyddio oddi ar y campws hefyd yn cael eu nodi mewn canlyniadau chwilio ar Primo.
Mae’n bosibl na fydd GlobalProtect VPN ar gael os yw myfyriwr neu aelod o staff
- yn defnyddio rhwydwaith cyfrifiadurol nad yw’n ei ganiatáu – mewn gweithle, er enghraifft
- ddim yn gallu defnyddio ffôn symudol ar gyfer Multi Factor Authentication (MFA)
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk