Sut mae dod o hyd i gyfnodolion yn Primo?

Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio i filoedd o gyfnodolion academaidd sydd ar gael mewn print, ar-lein neu'r ddau. Mae'r rhain wedi'u mynegeio yn Primo ynghyd â nifer o deitlau mynediad agored.

  • Ewch i PrimoMewngofnodi
  • Ychwanegwch eich termau chwilio yn y bar chwilio, neu deitl y cyfnodolyn yr hoffech os yw'n hysbys i chi, a chliciwch ar search
  • Pan fydd eich canlyniadau chwilio yn ymddangos, edrychwch ar ddim ond y cyfnodolion drwy ddewis Journals o dan Resource Type yn y ddewislen Tweak My Results ar y chwith

Gall cyfnodolyn fod ar gael ar-lein, mewn print neu'r ddau. 

Gallai'r daliadau print ac ar-lein fod wedi'u catalogi yn yr un cofnod, neu wedi'u catalogi ar wahân fel yn yr enghraifft isod.

  • I weld yr e-gyfnodolion yn unig, cliciwch ar Full Text Online yn y ddewislen Availability  ar y chwith

Efallai bod y llyfrgell yn cadw holl gyhoeddiadau'r cyfnodolyn neu ran ohono'n unig.

  • I wirio'r cyfrolau sydd ar gael mewn cyfnodolyn argraffedig, cliciwch ar deitl y cyfnodolyn a chliciwch ar Find and Request yn y ddewislen ar y chwith

Yn yr enghraifft isod mae cyfrolau wedi'u cyhoeddi o 2016 ymlaen. 351 yw nifer y cyfrolau a gyhoeddwyd yn 2016 ac mae'r cysylltnod yn nodi bod tanysgrifiad presennol.

  • I wirio sawl cyfrol sydd ar gael mewn egyfnodolyn, cliciwch ar deitl y cyfnodolyn a chliciwch ar View Online yn y ddewislen ar y chwith

Yn yr enghraifft isod, mae'r cyhoeddiad ar gael o 1983 i 2005. 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk