Sut ydw i'n ychwanegu estyniad nodi tudalen Aspire at Safari ar MacBook?

  • Ewch i Aspire,mewngofnodi a chlicio ar My Bookmarks
  • Cliciwch ar Install Bookmarking Extension

  • Ar y ffenestr naid cliciwch ar Install Bookmarking Extension

  • Cliciwch ar View in Mac App Store neu Add to Safari

  • Os na allwch weld yr estyniad llyfrnodi cliciwch ar Safari ac yna Safari Extensions i droi’r estyniad Talis ymlaen

  • Cliciwch ar yr eicon Talis  a dewis Aberystwyth University o’r ddewislen ac yna Save

  • Gallwch ddechrau llyfrnodi yn ôl eich arfer, ond yn hytrach na defnyddio llyfrnod yn eich ffefrynnau yr oll sydd angen ichi ei wneud yw clicio ar eicon estyniad Talis  yn eich bar offer (gall defnyddwyr sydd â’r Talis Bookmarklet hŷn barhau i ddefnyddio'r llyfrnod yn yr un ffordd).

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk