Sut ydw i'n gosod ateb awtomatig os ydw i allan o'r swyddfa? (Webmail)

Yn unol â pholisi dwyieithog Prifysgol Aberystwyth, mae'n ofynnol i chi osod trip nodyn dwyieithog. Isod ceir enghraifft y gallwch ei defnyddio:

  • Ni fyddaf yn y swyddfa tan 15/08/2017. Os gwelwch yn dda anfonwch ymholiadau brys i ***@aber.ac.uk
    I shall be away from the office until 15/08/2017. Please send urgent enquiries to ***@aber.ac.uk

Am fwy o enghreifftiau trip nodyn, gweler http://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/cwls/pdfs/Sending-bilingual-emails.pdf 

  • Cliciwch Gweld yr holl Osodiadau Outlook
  • Cliciwch Atebion Awtomatig
  • Cliciwch y botwm Anfon Atebion Awtomatig 
  • Ticiwch Anfon atebion yn ystod y cyfnod hwn yn unig os ydych am nodi hyd gyfnod yr ateb awtomatig. Dewiswch yr amser ar ddyddiad dechrau a'r amser a'r dyddiad gorffen. 

Gallwch hefyd anfon negeseuon ateb awtomatig at anfonwyr sydd y tu allan i'r Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfeiriad e-bost nad yw'n gorffen gyda @aber.ac.uk.

  • Ticiwch Anfon negeseuon ateb awtomatig at anfonwyr y tu allan i'm sefydliad 

  • Rhowch y testun o'ch ateb awtomatig allanol ( Which one do I need? )

  • Cliciwch Cadw
  • I analluogi Atebion Awtomatig ticiwch Peidiwch ag anfon atebion awtomatig 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk