Sut mae gwneud copïau wrth gefn o cynnwys neu aseiniadau yn Blackboard? (Myfyrwyr)

Bydd angen gwneud copi wrth gefn ar wahân ar gyfer pob darn o gynnwys neu aseiniad a gyflwynwyd.

Ar gyfer cyflwyniadau Blackboard Assignment 

  • Llywiwch i'r ardal yn y modiwl Blackboard lle gwnaethoch chi gyflwyno'r aseiniad.
  • Cliciwch ar deitl yr aseiniad
  • O'r fan hon fe welwch Attached Files - gyda dolen i'ch aseiniad
  • Cliciwch fotwm de'r llygoden ar enw'r ffeil y gwnaethoch ei chyflwyno a dewiswch Save Target As...
  • Cadwch y ffeil mewn lleoliad o'ch dewis

 

Ar gyfer cyflwyniadau Turnitin

  • Llywiwch i'r ardal yn y modiwl Blackboard lle gwnaethoch chi gyflwyno'r aseiniad.
  • Cliciwch ar deitl yr aseiniad
  • Cliciwch ar y botwm download a dewiswch naill ai Originally Submitted Format neu PDF Format
  • Cadwch y ffeil mewn lleoliad o'ch dewis

Gwneud copi wrth gefn o gynnwys cwrs o Blackboard

  • Llywiwch i'r ardal yn y cwrs Blackboard lle mae'r ddogfen wedi'i chadw.
  • Cliciwch fotwm de'r llygoden ar y cynnwys a dewiswch Save Target As...
  • Cadwch y ffeil mewn lleoliad o'ch dewis.
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk