Sut ydw i'n cysylltu fy nyfais symudol i rwydwaith diwifr y Brifysgol? (Android)

Bydd dyfeisiau staff nad ydynt yn cael eu rheoli'n ganolog yn cael mynediad i'r rhyngrwyd dim ond wrth gysylltu ag eduroam. I gael mynediad llawn at adnoddau PA bydd angen i chi gysylltu â'r gwasanaeth VPN GlobalProtect neu sefydlu proffil gwaith ar eich dyfais.

 

  • Gosodwch ap GetEduroam o’r Google Play Store
  • Pwyswch Aberystwyth University o’r rhestr a pwyswch Next.
  • Ar dudalen mewngofnodi’r brifysgol, rhowch eich cyfeiriad ebost llawn a’ch cyfrinair.
  • Pwyswch Connect to network.
  • Pan fydd gosodiadau ar gyfer Eduroam yn cael eu cadw, sweipiwch i lawr o ben y sgrin a phwyswch Rhyngrwyd.
  • O'r rhestr o rwydweithiau sydd ar gael, pwyswch Eduroam ac arhoswch iddo gysylltu.
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk