Sut mae cysylltu fy rhestr ddarllen â modiwl Blackboard?

Mae fideo arddangos ar gael, os bydd ei angen arnoch, ynghyd â'r cyfarwyddiadau ysgrifenedig isod.

Ewch i dudalen Gynnwys y Cwrs ar gyfer y Modiwl yr hoffech weithio arno.

  • Yn Course Content, cliciwch y botwm +  

  • Yn y ddewislen sy'n ymddangos cliciwch ar Additional Tools

  • Cliciwch ar Rhestr Darllen / Reading Lists

  • Dewch o hyd i ganlyniadau'r rhestr a awgrymir sydd â'r cyfnod amser mwyaf diweddar a chliciwch ar y botwm Embed list drws nesaf iddo. Gallwch weld rhagolwg o restr cyn ei hychwanegu. 

  • Llusgwch a gollwng y ddolen i'r rhestr ddarllen yr ydych wedi'i chreu fel ei bod yn un o'r chwe eitem ar y brig yn y Course Content.

Os nad yw'r rhestr gywir yn ymddangos yn y rhestrau a awgrymir gwnewch yn siŵr ei bod wedi'i chreu drwy ddilyn y LibGuide. Os yw'r rhestr wedi'i chreu ac nad yw'n ymddangos edrychwch ar y Cwestiwn Cyffredin.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech wneud apwyntiad â llyfrgellydd pwnc ebostiwch: librarians@aber.ac.uk

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk