Pa gyfres o gwestiynau ddylwn i ei hateb yn yr Offeryn Darganfod Digidol? (Myfyrwyr)
Ar ôl i chi gael mynediad i ddangosfwrdd yr Offeryn Darganfod Digidol, bydd gennych ddewis o ddwy gyfres o gwestiynau i'w hateb. Mae'r ddwy wedi'u cynllunio i feithrin dealltwriaeth yn hytrach na phrofi gwybodaeth.
Myfyrwyr Newydd: Rydym yn argymell bod myfyrwyr y Flwyddyn Sylfaen a’r Flwyddyn Gyntaf yn cwblhau'r gyfres o gwestiynau i Fyfyrwyr Newydd.
Myfyrwyr Presennol: Fe ddylai pob myfyriwr arall sy'n dychwelyd i'r brifysgol (e.e., Ail a Thrydedd flwyddyn) a phob myfyriwr uwchraddedig gwblhau'r gyfres o gwestiynau 'Myfyrwyr presennol (Addysg Bellach)'.
Rydym yn argymell bod pob myfyriwr yn cwblhau'r holiadur Sgiliau Digidol Myfyrwyr mewn AI ac AI Cynhyrchiol.
Os ydych yn dal i fod yn ansicr ynghylch pa gyfres o gwestiynau i’w chwblhau, holwch eich adrannau.
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk