Sut mae lawrlwytho bathodyn digidol unwaith y byddaf wedi cwblhau'r Offeryn Darganfod Digidol?

Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r holiadur ac wedi derbyn eich adroddiad Offeryn Darganfod Digidol personol, gallwch wedyn lawrlwytho bathodyn digidol i ddangos eich bod wedi cwblhau'r gyfres o gwestiynau. Gallwch ychwanegu hwn at eich portffolio digidol, e.e. eich proffil LinkedIn neu CV.

I hawlio'ch bathodyn digidol:

  • Cliciwch ar eich set cwestiynau ac agorwch eich adroddiad (Sut ydw i'n gwneud hynny?)
  • Naill ai cliciwch ar Hawliwch eich bathodyn o'r ddewislen lywio ar ochr chwith y sgrin neu sgroliwch i waelod eich adroddiad a dewiswch Hawliwch eich bathodyn

Pwysig: Darperir y bathodyn digidol hwn gan gwmni allanol, Credly. Os byddwch yn dewis cofrestru ar gyfer Credly i gael mynediad i'ch bathodyn digidol, defnyddiwch gyfrinair gwahanol i'r un sydd gennych ar gyfer eich cyfrif prifysgol. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda'ch bathodyn digidol, cysylltwch â Credly yn uniongyrchol.

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk