Sgiliau mathemategol, ystadegol a rhifol

A yw mathemateg ac ystadegau yn rhan o'ch cwrs? Ydych chi eisiau gwella eich gwybodaeth fathemategol bresennol?

Mae mathemateg, ystadegau a rhifedd yn sgiliau hanfodol i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau anhepgor wrth wraidd datblygiadau mewn llawer o feysydd bywyd. Datblygwch eich sgiliau mewn mathemateg, ystadegau neu rifedd gyda chymorth un-i-un a linciau i fwy o wybodaeth isod.

Sgiliau astudio mathemategol

Canllaw y Brifysgol Agored: (Saesneg yn unig)

Maes Chwarae Mathemateg

Mae'r Maes Chwarae Mathemateg yn wefan helaeth a hawdd ei defnyddio sy'n cefnogi dysgu yn y meysydd canlynol. Gallwch lywio o fewn y wefan gyda'r brif ddolen we, neu ddewis o'r prif adrannau isod.

Adnoddau ar gyfer mathemateg, ystadegau a rhifedd

Mae Academi Khan yn dysgu mathemateg gan ddechrau o gyfrif yr holl ffordd i fyny i calcwlws. Gallwch ddewis yn union ar ba bwynt rydych chi'n dechrau fel y gallwch neidio'n syth i mewn i adran rydych chi'n teimlo fwyaf perthnasol: https://www.khanacademy.org/math

Gall adnoddau Academi Khan helpu myfyrwyr i ddysgu neu adnewyddu sgiliau mathemateg sylfaenol. 

Mathcentre: rhwydwaith mawr o adnoddau a chysylltiadau o brosiect a ddatblygwyd gan brifysgolion Loughborough, Leeds a Coventry a'r Rhwydwaith OR ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Darlledu Addysgol.

Meddalwedd dadansoddi data ac ystadegau

Gallwch gael mynediad i sawl rhaglen dadansoddi data ac ystategau. Gall staff a myfyrwyr lawrlwytho'r meddalwedd i'w cyfrifiaduron personol drwy fynd i'r safle Meddalwedd sydd ar gael oddi wrth PA (Mewngofnodi gofynnol)

Ar gyfer myfyrwyr a staff sydd eisiau gosod R ar gyfrifiaduron personol, mae angen i chi lawrlwytho a gosod R yn gyntaf ac yna lawrlwytho a gosod RStudio sydd ill dau ar gael am ddim:

  1. https://cran.r-project.org/
  2. https://posit.co/downloads/

Esiamplau o gyrsiau LinkedIn Learning (Mewngofnodwch gyda'ch e-bost a chyfrinair PA):

Cymorth 1:1 mewn mathemateg ac ystadegau

Sesiynau galw heibio

Dim angen bwcio o flaen llaw - galwch draw!

Bydd tiwtoriaid Mathemateg ac Ystadegaeth profiadol ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen i helpu myfyrwyr gyda'u cwestiynau am fathemateg neu ystadegaeth fel rhan o'u cwrs. Bydd y tiwtoriaid ar Lefel D (llawr gwaelod) Llyfrgell Hugh Owen bob wythnos yn ystod y tymor addysgu:

  • Dydd Iau yn ystod tymor
  • 10:00-13:00 
  • Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen 

Mae'r gwasanaeth Cymorth Mathemateg ac Ystadegaeth yn cael ei redeg gan yr Adran Fathemateg.

E-bostiwch maths-help@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau neu i drefnu sesiwn gymorth y tu allan i'r amser uchod.