Sut ydw i'n cymharu dau o adroddiadau'r Offeryn Darganfod Digidol?

Ar ôl ichi gwblhau'r un gyfres o gwestiynau fwy nag unwaith, gallwch gymharu'r canlyniadau o'ch adroddiadau. 

  • I gymharu'r adroddiadau, ewch i'ch set cwestiynau a chliciwch ar y gyfres yr hoffech ei chymharu.
  • Ar y dudalen sy'n agor, fe welwch y botwm glas Gweld adroddiad ar waelod y tab. 

  • Cliciwch Gweld adroddiad a bydd eich adroddiad diweddaraf yn agor.
  • O dan y graff radial, fe welwch yr hidlyddion sy'n eich galluogi i gymharu eich adroddiadau blaenorol.

  • Dewiswch y ddau adroddiad yr hoffech eu cymharu o'r cwymplenni a chliciwch Gwneud cais.

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk