Beth yw proffil gwaith Android?

Mae proffil gwaith yn caniatáu ichi wahanu eich apiau gwaith, eich data a'ch defnydd o'r ddyfais ar gyfer gwaith oddi wrth eich apiau personol, eich data a'ch defnydd personol o'r ddyfais:

Selected photo

Mae hyn yn caniatáu i chi gael mynediad i adnoddau'r Brifysgol o'ch dyfais, yn unol â'r polisi Dewch â'ch dyfais eich hun a chadw preifatrwydd dros eich apiau personol, eich data a'ch defnydd personol.

Mae'r proffil gwaith yn cael ei reoli gan y Brifysgol ac mae ganddi ei fersiwn ei hun o'r Play Store lle gallwch osod apiau sy'n gysylltiedig â gwaith. Mae'r rhain yn ymddangos gydag eicon briefcase fel eich bod yn gwybod eu bod yn apiau gwaith. Os oes gennych ap yn eich proffil personol bydd angen i chi ei osod eto yn y proffil gwaith

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk