Sut mae rhoir sianel gyfieithu ar waith mewn cyfarfod Teams?

  • Crëwch eich cyfarfod Teams a gwahoddwch eich mynychwyr gan gynnwys eich cyfieithydd.
  • Agorwch y cyfarfod Teams a dewiswch Meeting Options/Dewisiadau’r Cyfarfod:

Cyfarfod Microsoft Teams gyda Dewisiadau’r Cyfarfod wedi'i amlygu

  • Bydd ffenestr y porwr yn agor.
  • Sgroliwch i lawr i Enable language interpretation/Galluogi cyfieithu ar y pryd ac ewch i Yes/Iawn.
  • Rhowch enw defnyddiwr y cyfieithydd yn y blwch ‘’Search for interpreter’/Chwilio am gyfieithwyr’ - (sylwch fod angen i chi wahodd y cyfieithydd i’r cyfarfod er mwyn i chi allu ei ddewis).

Chwilio am gyfieithwyr’ gyda’r gwymplen

    • O’r gwymplen Iaith Wreiddiol, dewiswch Welsh/Cymraeg*. Ar gyfer yr Iaith Darged dewiswch English/Saesneg.
    • Gwasgwch Save/Cadw.
    • Ar ddechrau’r cyfarfod Teams, atgoffwch bawb bod cyfieithydd ar yr alwad a bod croeso iddyn nhw siarad yn Gymraeg. Cyfeiriwch y rhai y mae angen y gwasanaeth cyfieithu arnyn nhw at y sianel gyfieithu (ceir cyfarwyddiadau isod).

    * Yng Nghymru, rydym fel arfer yn cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg er mwyn i siaradwyr Cymraeg gyfrannu at gyfarfodydd/digwyddiadau yn eu dewis iaith. Fodd bynnag, dan amgylchiadau arbennig, megis wrth ymdrin â chwynion ac achosion disgyblu, neu mewn sefyllfaoedd sy’n ymwneud â lles neu fuddiant personol, rydym yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Saesneg i’r Gymraeg hefyd.

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk