Sut ydw i'n gwrando ar sianel y cyfieithu Teams?

  • I wrando ar sianel y cyfieithydd, ymunwch â'r cyfarfod.
  • Byddwch yn cael y neges Choose language/Dewiswch iaith yn y ffenestr uchaf:

Cliciwch ar yr anogwr iaith ar ddechrau'r cyfarfod

  • Dewiswch o’r gwymplen yr iaith rydych chi am wrando arni (e.e. os nad ydych yn siarad Cymraeg, dewis English/Saesneg).
  • Cadarnhewch eich dewis.
  • Os oes angen i chi ddechrau gwrando ar y sianel gyfieithu yng nghanol cyfarfod neu ar ôl i’r opsiwn cyfieithu ar y pryd diflannu, ewch i More/Mwy ar eich bar tasgau:

Bar tasgau Teams yn dangos More/Mwy wedi'i amlygu

  • Dewiswch Language Interpretation/Cyfieithu ar y Pryd a dilynwch y camau uchod i ddewis eich iaith.
  • I newid yn ôl i iaith y cyfarfod:

    • Dewiswch More/Mwy o'r bar tasgau a dewiswch Language Interpretation/Cyfieithu ar y Pryd.
    • O'r gwymplen, dewiswch Original Language/Iaith Wreiddiol.
    • Cliciwch Confirm/Cadarnhau.
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk