Sut mae ychwanegu cyfieithydd ar y pryd allanol i gyfarfod Teams?

Os ydych yn defnyddio cyfieithydd allanol, dilynwch y llif gwaith isod:

Cyn y cyfarfod:

  • Crëwch eich cyfarfod Teams a gwahoddwch eich mynychwyr gan gynnwys eich cyfieithydd. Gweler Sut ydw i'n creu cyfarfod Teams? Am fwy o wybodaeth.
  • Agorwch y cyfarfod Teams a dewiswch Meeting Options/Dewisiadau’r Cyfarfod:

Cyfarfod Microsoft Teams gyda Dewisiadau’r Cyfarfod wedi’u hamlygu

  • Bydd ffenestr y porwr yn agor.
  • Sgroliwch i lawr i Enable language interpretation/Galluogi cyfieithu ar y pryd ac ewch i Yes/Iawn
  • Pennwch aelod o staff PA i fod yn gyfieithydd. Bydd yn rhaid i chi newid y cyfieithydd i’r cyfrif nad yw’n gyfrif PA ar ddechrau’r cyfarfod.

eitem ‘Chwilio am gyfieithwyr’ gyda’r gwymplen

  • O’r gwymplen Iaith Wreiddiol, dewiswch Welsh/Cymraeg*. Ar gyfer yr Iaith Darged dewiswch English/Saesneg.
  • Gwasgwch Save/Cadw
  • Ar ddechrau’r cyfarfod Teams, atgoffwch bawb fod cyfieithydd ar yr alwad a bod croeso iddyn nhw siarad yn Gymraeg. Cyfeiriwch y rhai y mae angen y gwasanaeth cyfieithu arnyn nhw at y sianel gyfieithu (ceir cyfarwyddiadau isod).

Ar ddechrau’r cyfarfod:

Unwaith y bydd y cyfieithydd allanol wedi ymuno â’r cyfarfod:

  • Cliciwch ar y ffenestr ‘Pobl’
  • Cliciwch ar y ... i’r dde o enw’r cyfieithydd
  • Dewiswch Make Interpreter/Gwneud yn Gyfieithydd
  • Newidiwch y Cyfieithydd PA yn ôl
  • Cliciwch ar y ... i’r dde o’r aelod staff PA a bennwyd yn gyfieithydd gennych a dewiswch Make Attendee/Gwneud yn Fynychwr
  • Gweler y recordiad hwn am arweiniad ar sut i wneud hyn.

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk