Beth ddylwn ei wneud os wyf yn derbyn ebost gwe-rwydo?

Os byddwch yn derbyn e-bost gwe-rwydo neu sothach i'ch cyfrif Prifysgol Aberystwyth, gallwch roi gwybod amdano'n uniongyrchol i Microsoft fel y gellir rhwystro e-byst gwe-rwydo yn awtomatig heb ymyrraeth staff GG:

Yn Outlook

  • O'r rhuban ar y brig dewiswch Adrodd Neges
  • Dewiswch Gwe-rwydo neu Sothach fel sy'n briodol
  • Delete the message

 

Yn Outlook ar y we

  • De-gliciwch ar y neges
  • Dewiswch Adrodd ac yna Adrodd gwe-rwydo neu Adrodd sothach fel y bo'n briodol

 

 

Yn Outlook ar gyfer ffôn symudol

  • Cliciwch ar y tri dot wrth ymyl enw'r anfonwr
  • Cliciwch Adrodd Neges
  • Dewiswch Adrodd fel gwe-rwydo neu Adrodd fel sothach fel sy'n briodol

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk