Gallaf glywed y sianel gyfieithu ar Teams a sianel y cyfarfod ar yr un lefel sain. Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych yn troi sain gofodol (spatial audio) ymlaen mewn cyfarfod gyda chyfieithu ar y pryd, byddwch yn clywed y sain wreiddiol a’r cyfieithu ar yr un lefel sain. Diffoddwch y sain gofodol ac ailymunwch â’r cyfarfod i glywed llais y cyfieithydd yn glir gyda’r llais gwreiddiol yn is.

I ddiffodd y ‘sain gofodol’:

  • Dewiswch Mwy ... > Gosodiadau > Gosodiadau’r ddyfais.
  • O dan Gosodiadau Sain, ewch i Seinydd, dewiswch eich dyfais gytûn.
  • Diffoddwch y togl wrth ymyl Sain Gofodol.  

Gadewch ac ailymunwch â’r cyfarfod. Dylech nawr glywed y sianel gyfieithu yn glir.

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk