Beth sydd angen i mi ei wybod am y modiwl cyn creu rhestr ddarllen newydd yn Aspire?
Sicrhewch fod gennych chi'r wybodaeth isod cyn dechrau ychwanegu rhestr ddarllen newydd i Aspire.
Ynglŷn â'r modiwl
- Cod y modiwl
- Teitl y modiwl
- Cydlynydd y modiwl - os ydych chi'n ychwanegu rhestr ar ran cydlynydd y modiwl, rhowch wybod eich bod yn gwneud hynny cyn dechrau
- Semester(au) y caiff y modiwl ei ddysgu ynddynt - mae dewisiadau dewislen ar wahân ar gyfer Dysgu o Bell a Dysgu Gydol Oes
- A yw'r un cynnwys yn cael ei ddysgu mewn modiwlau eraill? Os felly, beth? Efallai fod rhestr Aspire yn bodoli eisoes a fyddai'n bodloni gofynion eich modiwl. Yn hytrach na chreu rhestr newydd, gallai eich modiwl gael ei gysylltu â'r un sy'n bodoli eisoes (Sut mae gwneud hynny?)
I strwythuro'r rhestr
- A oes unrhyw adrannau yn eich rhestr? Gallwch strwythuro eich rhestr e.e. yn ôl wythnos, yn ôl thema, yn ôl teitl traethawd, yn ôl pwysigrwydd. Gallwch arbed yr ymdrech o symud cynnwys os ydych chi'n ychwanegu'r adrannau cyn ychwanegu cynnwys i'r rhestr.
I boblogi'r rhestr
- Pwysigrwydd pob eitem h.y. Hanfodol neu Ddarllen Pellach (Pam mae hyn yn bwysig?)
- Enwau'r penodau a rhifau tudalennau unrhyw benodau mewn llyfrau yr hoffech wneud cais i'w digido
Cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc (Sut mae gwneud hynny?) neu e-bostiwch librarians@aber.ac.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech drefnu cymorth un-i-un (Sut mae gwneud hynny?) cyn neu wrth i chi greu eich rhestr ddarllen newydd.
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk