Sut mae mewnosod recordiadau teledu a radio yn Blackboard?
Gallwch wneud a/neu gael mynediad i recordiadau o raglenni teledu drwy'r gwasanaeth Box of Broadcasts - i gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio Box of Broadcasts, edrychwch ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Box of Broadcasts.
Gellir mewnosod recordiadau i weddalennau, gan gynnwys eitemau cynnwys Blackboard. Mae'r cyfarwyddiadau isod yn rhoi manylion am y broses hon:
- Dewch o hyd i recordiad o'r rhaglen yn Box of Broadcasts.
- Cliciwch ar y botwm Embed o dan y chwaraewr rhaglenni.
- Yn y blwch sy'n ymddangos, dewiswch Embed a chopïwch y cod i'r clipfwrdd (Ctrl+C).
- Llywiwch i'r ardal gynnwys yn Blackboard yr hoffech ychwanegu'r clip iddi.
- Daliwch gychwr eich llygoden dros yr arwydd ychwanegu porffor a chlicio ar Create. Dewiswch Document.
- Dewiswch Add HTML
- Gludwch y cod yn y golygydd testun a chlicio ar Save.
- I sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu gweld y cynnwys, dewiswch Visible to students:
Elearning, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2472 Email: elearning@aber.ac.uk
Tel: 01970 62 2472 Email: elearning@aber.ac.uk