Sut mae paratoi fy rhestr ddarllen ar-lein ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022-2023?

Mae’r tîm Cysylltiadau Academaidd yma i’ch helpu i baratoi eich rhestrau darllen Aspire. Cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc (Sut mae gwneud hynny?) neu trefnwch gyfarfod â hwy ar Teams (Sut mae gwneud hynny?). Gallwch anfon ebost atynt ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk

A yw’r rhestrau darllen Aspire sydd gennych eisoes yn gweithio’n iawn?

Mae angen gwirio cynnwys pob rhestr ddarllen Aspire unwaith y flwyddyn er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio’n iawn, neu mae’n bosibl na fydd myfyrwyr yn cael y profiad rhwydd y maent yn ei ddisgwyl o ran gallu clicio ar gynnwys y rhestr. Er bod y Llyfrgell yn ceisio sicrhau bod dolenni i adnoddau llyfrgell mewn rhestrau darllen Aspire yn parhau i weithio, mae modd iddynt ddod yn ddiffygiol mewn nifer o ffyrdd dros amser. Mae angen gwirio dolenni yr ydych wedi’u hychwanegu i dudalennau gwe sydd ar gael yn agored hefyd).

Mae croeso ichi wirio a thrwsio eich rhestrau darllen eich hun (Sut mae gwneud hynny?) ond gallwch hefyd

  • Gofynnwch i’r Llyfrgell: cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc neu e-bostiwch llyfrgellwyr@aber.ac.uk gan nodi pa restrau darllen Aspire sydd angen eu gwirio ac unrhyw ddolenni toredig sydd angen eu trwsio.
  • Trefnwch gyfarfod â’ch llyfrgellydd pwnc a gwirio/trwsio unrhyw ddolenni yn eich rhestrau darllen Aspire yn ystod cyfarfod Teams

A oes arnoch angen rhestr ddarllen Aspire ar gyfer modiwl newydd (neu fodiwl sy’n bodoli eisoes)? Anfonwch gynnwys eich rhestr ddarllen atom

Ydych chi eisoes yn gwybod beth y mae arnoch eisiau ei gynnwys ar eich rhestr ddarllen newydd? Ebostiwch y cynnwys at llyfrgellwyr@aber.ac.uk gan gynnwys

  • Cod a theitl y modiwl
  • Pa lyfrau sy’n Hanfodol – bydd y Llyfrgell yn archebu e-lyfr neu sawl copi print os nad oes e-lyfr ar gael  
  • Pa lyfrau sy’n Ddarllen Pellach – bydd y Llyfrgell yn archebu un copi print
  • Unrhyw benodau neu erthyglau y mae arnoch angen iddynt gael eu digideiddio  
  • Unrhyw enwau adrannau yr hoffech iddynt gael eu grwpio oddi tanynt

Bydd eich rhestr ddarllen yn cael ei chreu a’i chyhoeddi, bydd llyfrau’n cael eu prynu, ceisiadau i ddigideiddio yn cael eu prosesu a chysylltir â chi os oes unrhyw broblem.

Gofynnir ichi gwblhau eich rhestrau darllen ar gyfer modiwlau sy’n cychwyn yn Semester Un erbyn 31 Gorffennaf  

Mae’r Llyfrgell yn eich annog i gwblhau eich rhestrau darllen erbyn y dyddiadau isod fan bellaf (Pam mae’r Llyfrgell angen pennu’r dyddiadau yma?)

  • Modiwlau Semester 1 – 31 Gorffennaf
  • Modiwlau a ddysgir dros y ddau semester – 31 Gorffennaf
  • Modiwlau Semester 2 – 30 Tachwedd

Mae problemau sy’n deillio yn sgil dolenni sydd wedi torri neu gynnwys coll mewn rhestrau darllen tua dechrau’r tymor yn amharu ar ymwneud myfyrwyr â’r gwaith darllen ar gyfer y modiwl a’u boddhad â’r modiwl, felly gofynnwn ichi gysylltu â’ch llyfrgellydd pwnc cyn gynted â phosibl os na allwch gadw at y dyddiadau hyn.

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk