Sut ydw i'n cynnwys fideos, casgliadau a llwybrau dysgu LinkedIn Learning yn fy modiwl Blackboard? (Staff)
Gall staff gynnwys dolenni i fideos, casgliadau a llwybrau dysgu LinkedIn Learning o fewn eu modiwlau Blackboard. Gall staff hefyd ymgorffori cyrsiau LinkedIn Learning o fewn eu modiwlau Blackboard (gweler: Sut ydw i’n ymgorffori cwrs o LinkedIn Learning yn fy modiwl Blackboard? (Staff).
I ychwannegu dolen i gynnwys LinkedIn Learning (h.y. fideos, casgliadau a llwybrau dysgu) yn eich modiwl Blackboard:
- Dewch o hyd i'r cynnwys yr hoffech gynnwys o LinkedIn Learning a chopïwch y ddolen URL (gweler FAQ: Sut ydw i'n rhannu cynnwys o LinkedIn Learning gyda staff a myfyrwyr eraill? )
- Ewch i’r man yn eich modiwl lle rydych yn dymuno ychwanegu’r cynnwys.
- Dewiswch Adeiladu Cynnwys ac yna Dolen We
- Ychwanegwch Enw (e.e. teitl y cynnwys o LinkedIn Learning)
- Copïwch y ddolen URL o LinkedIn Learning (gweler FAQ: Sut ydw i'n rhannu cynnwys o LinkedIn Learning gyda staff a myfyrwyr eraill? ) a gludwch hyn o dan URL
- Ychwanegwch ddisgrifiad o'r cynnwys ac unrhyw gyfarwyddiadau o dan Disgrifiad
- Gwiriwch eich bod yn hapus gyda'r holl leoliadau eraill a dewis Cyflwyno.
- Bydd eich cynnwys yn ymddangos fel dolen we yn eich modiwl Blackboard.
- Gallwch olygu teitl a disgrifiad yr eitem drwy ddewis y saeth i’r dde o’r teitl a dewis Golygu.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud ag ychwanegu cynnwys LinkedIn Learning yn Blackboard, cysylltwch â'r Tîm Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk