Sut mae ychwanegu a dileu defnyddwyr o fy mlwch post a rennir?

Dim ond perchennog cofrestredig blwch post a rennir gall ychwanegu defnyddwyr eraill.

I ychwanegu defnyddiwr:

  • O dan Caniatâd Blwch Post dewiswch Ychwanegu Caniatâd Blwch Post.
  • Yn y maes Defnyddiwr, teipiwch enw defnyddiwr y person hoffech ychwanegu.
  • Yn y maes Caniatâd, dewiswch os ydych yn dymuno rhoi caniatâd SendAs, FullAccess, neu Admin iddynt i'r blwch post a rennir
    • SendAsDim ond yn caniatáu i'r defnyddiwr anfon e-byst ar ran y blwch post a rennir. Ni allant weld unrhyw e-byst a anfonwyd i'r blwch post, gan gynnwys atebion i e-byst y maent wedi'u hanfon o'r blwch post.
    • FullAccess: Mae hwn caniatáu i'r defnyddiwr anfon negeseuon, dileu negeseuon a chael mynediad at gynnwys llawn y blwch post a rennir. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu'r cyfrif at Outlook, dyfeisiau symudol, a mynediad trwy webost
    • Admin: Yn rhoi'r gallu i'r defnyddiwr ychwanegu neu ddileu hawliau pobl eraill i'r blwch post hwn. Argymhellir cael 2 neu 3 gweinyddwr.
  • Cliciwch Ychwanegu
  • Byddant wedi derbyn e-bost i roi gwybod iddynt eu bod wedi cael caniatâd i'r blwch post gyda chyfarwyddiadau ar sut i gael mynediad iddo

 

I gael gwared ar ddefnyddiwr:

  • Cliciwch yr eicon bin wrth ymyl y caniatâd yr hoffech ei ddileu.

 

Sylwch y bydd newidiadau yn cymryd tua awr i ddod yn weithredol.

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk