Beth ddylwn i wneud os wyf yn gadael (staff)?

Caiff cyfrifon TG a Llyfrgell staff Prifysgol Aberystwyth eu cloi'r diwrnod ar ôl i’w contract ddod i ben, fel yr amlinellir gan Adnoddau Dynol ar ABW.

Dylech drefnu’r canlynol gyda’ch rheolwr llinell

  • Trosglwyddo unrhyw ffeiliau neu negeseuon e-bost y byddant eu hangen o bosib ar ôl ichi adael
  • Pwy fydd yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw gyfrifon sy’n cael eu rhannu rydych chi’n eu perchen? (Sut fedra i wirio hyn?)
  • Pwy fydd yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw ddisgiau a rennir rydych chi’n eu rheoli? (Sut fedra i wirio hyn?
  • Pwy fydd yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw restrau e-bost rydych chi’n berchen arnynt (Sut fedra i wirio hyn?)
  • Pwy fydd yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw safleoedd SharePoint rydych chi’n eu rheoli
  • Pwy fydd yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw ganiatâd rydych chi’n ei reoli (Sut fedra i wirio hyn?)
  • Dod nôl ag unrhyw liniadur, dyfais symudol, neu gyfarpar arall o eiddo PA
  • Diweddaru’r manylion cyswllt ar unrhyw gronfa ddata rydych chi wedi tanysgrifio iddi ar ran eich adran gyda’ch cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth.

Unwaith y bydd eich cyfrif wedi ei gloi byddwch yn colli pob hawl mynediad felly dylech wneud y canlynol cyn y dyddiad hwnnw:

Dychwelyd yr holl lyfrau a fenthycwyd gennych

Mae’n rhaid ichi ddychwelyd yr holl lyfrau a fenthycwyd gennych (Sut fedra i weld beth sydd gennyf ar fenthyg?)

  • Cewch eich anfonebu am unrhyw eitemau sydd heb eu dychwelyd

Defnyddiwch unrhyw gredyd sydd ar ôl ar eich Cerdyn Aber

  • Gallwch weld faint sydd o gredyd sydd ar ôl trwy fynd i https://abercard.aber.ac.uk
  • Nid yw’n bosib ad-dalu unrhyw arian sy’n dal ar y cerdyn

Diweddaru eich manylion cyswllt ar unrhyw safleoedd neu wasanaethau allanol rydych chi wedi cofrestru arnynt gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost PA

  • Os byddwch wedi defnyddio eich cyfrif e-bost PA i gofrestru ar unrhyw safleoedd neu wasanaethau allanol, e.e. bancio ar-lein, siopa ar-lein, neu i gofrestru gemau cyfrifiadurol, bydd angen i chi newid yr e-bost cyswllt i gyfeiriad e-bost arall. I wneud hyn bydd angen ichi gysylltu’n uniongyrchol â’r safle neu’r gwasanaeth.

Anfon unrhyw e-bost personol ymlaen i’ch cyfrif e-bost cartref

  • Unwaith y bydd eich cyfrif TG yn cloi, ni fydd gennych hawl mynediad i’ch e-bost presennol.
  • Os oes yno negeseuon e-bost personol ichi nad ydynt yn gysylltiedig â’ch gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth, gallwch anfon y rhain ymlaen yn unigol i gyfeiriad arall.
  • Mae’n rhaid ichi sicrhau nad ydych yn anfon ymlaen unrhyw negeseuon e-bost sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif am bobl eraill neu unrhyw negeseuon e-bost yn gysylltiedig â busnes Prifysgol Aberystwyth.
  • Ar ôl i’ch cyfrif gloi, nid yw’n bosibl anfon ymlaen unrhyw negeseuon e-bost a anfonir i’ch cyfeiriad e-bost. 

Gosod ateb awtomatig

  • Gallwch osod ateb awtomatig ar eich cyfrif e-bost i roi gwybod i bobl sy’n eich e-bostio eich bod wedi gadael, a gadael manylion cyswllt eraill. (Sut fedra i wneud hynny?)
  • Bydd yr ateb awtomatig hwn yn para tra bydd eich cyfrif TG yn parhau i fod ar systemau PA; tua 12 wythnos o’r dyddiad cloi i staff fydd hyn
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk