Sut ydw i'n cadw dogfen ar fy ngyriant USB?
- Plygiwch eich gyriant USB i'r cyfrifiadur
- Gofynnir i chi amgryptio eich gyriant USB (Sut mae gwneud hynny?). Os nad ydych yn amgryptio, ni fydd modd i chi gadw ffeiliau i'r gyriant
- Agorwch File Explorer
- Porwch i'r lleoliad y mae'ch ffeil wedi'i chadw
- Cliciwch fotwm de'r llygoden ar y ffeil yr hoffech ei chopïo
- Dewiswch Send to: o'r ddewislen
- Dewiswch eich gyriant USB o'r rhestr hon
- Cliciwch ar Save
- Gallwch hefyd lusgo a gollwng eich ffeiliau, neu'u cadw'n uniongyrchol ar eich gyriant USB
- Cyn tynnu'r gyriant USB, gwnewch yn siŵr bod eich dogfen yno
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk