Sut mae cwblhau'r ffurflenni 'Creu' neu Creu ac ychwanegu at restr' yn Aspire?
Pan fyddwch yn creu eitem yn Aspire gofynnir i chi ddewis rhwng Creu a Creu ac ychwanegu at restr.
Cliciwch ar Creu os hoffech ychwanegu nod tudalen i'w gynnwys ar restr yn ddiweddarach (Sut mae gwneud hynny?)
Cliciwch ar Creu ac ychwanegu at restr i ychwanegu eich nod tudalen ar restr bresennol yn syth
- Cliciwch ar Creu ac ychwanegu at restr
-
Dewiswch y rhestr ddarllen yr hoffech ychwanegu'r eitem iddi
-
Cliciwch ar y botwm i osod yr eitem ar frig neu waelod y rhestr. Gallwch hefyd ail-drefnu'ch rhestr yn ddiweddarach
-
Cliciwch ar y ddewislen rhestr os hoffech ychwanegu'r nod tudalen i adran yn eich rhestr e.e. Seminar Wythnos 1 neu Ddarlith Wythnos 1 (Sut mae gwneud hynny?)
-
Ychwanegwch unrhyw nodiadau i'ch myfyrwyr
-
Mae'n RHAID i chi ddewis pwysigrwydd y llyfr fel Hanfodol neu Ddarllen pellach (Pam mae hyn yn bwysig?)
-
Ychwanegwch unrhyw nodiadau i staff y llyfrgell
-
Cliciwch ar OK
-
I weld yr eitem yn eich rhestr, cliciwch ar Fy Rhestrau a dewiswch y rhestr yr ydych wedi ychwanegu'r eitem iddi
I wneud yr eitem yn weladwy i'ch myfyrwyr ac i roi gwybod i staff y llyfrgell beth sydd angen ei brynu, cyhoeddwch eich rhestr (Sut mae gwneud hynny?)
Gallwch wneud cais i ddigido penodau neu erthyglau a sicrhau eu bod ar gael ar-lein (Sut mae gwneud hynny?)
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk