Sut ydw i'n defnyddio'r peiriant hunan-ddychwelyd?

Llyfrgell Hugh Owen

  • Pwyswch y botwm Dychwelyd Eitem/au ar y sgrin
  • Gwthiwch eich eitemau un ar y tro yn araf i mewn i’r peiriant
  • Arhoswch ennyd i'r peiriant brosesu'r eitem cyn gwthio eitem arall
  • Ar ôl dychwelyd yr eitemau i gyd, pwyswch ymadael
  • Os oes problem wrth ddychwelyd eitem drwy’r peiriant, rhowch yr eitem ym mlwch wrth ymyl y peiriant ac mi fydd aelod o staff yn ei gasglu i'w ddychwelyd

 

Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

  • Pwyswch y botwm Dychwelyd ar y sgrin
  • Rhowch eich llyfrau ar y pad (gallwch osod nifer o eitemau ar yr un pryd)
  • Bydd y peiriant yn dechrau cofnodi'r llyfrau fesul un
  • Bydd rhestr o'r llyfrau a ddychwelwyd yn ymddangos ar y sgrin
  • Arhoswch eiliad i'r peiriant orffen prosesu pob eitem
  • Unwaith bydd y llyfrau i gyd wedi'u rhestru gallwch roi nhw ar y troli ar ochr dde'r peiriant
  • Byddwch yn derbyn derbynneb trwy e-bost yn manylu'r eitemau a ddychwelwyd
  • Os oes problem wrth ddychwelyd eitem drwy’r peiriant, rhowch yr eitem ym mlwch ar ochr dde'r peiriant ac mi fydd aelod o staff yn ei gasglu i'w ddychwelyd

Peiriant dychwelyd/benthyg hunan yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk