Sut ydw i'n defnyddio'r peiriant hunan-fenthyca?
Mae peiriannau hunan-fenthyca ar gael yn Llyfrgelloedd Hugh Owen a Gwyddorau Ffisegol
I ddefnyddio'r peiriant:
- Rhowch eich llyfrau ar y pad (gallwch osod nifer o eitemau ar yr un pryd)
- Dangoswch eich Cerdyn Aber i'r darllenydd
- Bydd y peiriant yn dechrau cofnodi'r llyfrau fesul un
- Bydd rhestr o'r llyfrau a fenthycwyd yn ymddangos ar y sgrin
- Arhoswch eiliad i'r peiriant orffen prosesu pob eitem
- Unwaith bydd y llyfrau i gyd wedi'u rhestru gallwch fynd a nhw
- Byddwch yn derbyn derbynneb trwy e-bost yn manylu'r eitemau a fenthycwyd
IT Service Desk, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2400 Email: is@aber.ac.uk
Tel: 01970 62 2400 Email: is@aber.ac.uk