Sut ydw i'n rhoi mynediad darllen yn unig i'm storfa ffeiliau a rennir ar office.disk.aber.ac.uk?

Bydd y cyfarwyddiadau hyn yn berthnasol i berchennog storfa ffeiliau a rennir yn unig.

Os ydych am ychwanegu caniatâd darllen i storfa ffeiliau a rennir sy'n bodoli eisoes, cysylltwch â'r Gwasanaethau Gwybodaeth (Sut mae gwneud hyn? )

  • Ewch i MyAccount
  • Dewiswch Rheoli disgiau fy adran
  • Sicrhau bod y ddisg adrannol gywir yn cael ei dewis
    Gallwch ddewis Change Server i reoli disg adrannol wahanol
  • O dan New Share rhowch enw cyfran a pherchennog addas
  • Rhowch tic yn y bocs Include readonly
  • Mae rhaid i enw’r cyfran gyfateb gyda enw'r Grŵp, y Tîm neu'r Prosiect y mae'r gyfran yn cael ei chreu ar ei gyfer (bydd hyn yn ymddangos yn y teitl ffeiliau a rennir)
  • Dewiswch Create Share


  • Bydd y gyfran wedyn wedi'i chreu a bydd modd cael mynediad iddo ar ôl 15 munud
  • Ar ôl i chi gael mynediad iddo, bydd angen i chi ychwanegu caniatâd ar gyfer defnyddwyr (Sut mae gwneud hyn?)
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk