Sut mae cael mynediad at e-adnoddau oddi ar y campws?

Y tro cyntaf

  • Lawrlwythwch a gosodwch yr estyniad porwr [LibKey Nomad] i'ch dyfais (Sut mae gwneud hynny?) er mwyn iddo wirio'r argaeledd testun llawn ar gyfer unrhyw erthyglau cyfnodolion rydych chi'n dod o hyd iddynt wrth chwilio y tu allan i gatalogau'r llyfrgell

Bob amser

  • Mewngofnodwch i Primo (catalog y llyfrgell) cyn dechrau chwilio am unrhyw lyfrau llyfrgell (Sut mae gwneud hynny?).

Wrth chwilio yn Primo

Yn Primo, pan fyddwch yn dod o hyd i elyfr, egyfnodoyn neu erthygl o gyfnodolyn ar-lein neu gronfa ddata

  • cliciwch ar y teitl i agor y manylion
  • cliciwch ar Gweld Ar-lein yn y ddewislen ar y chwith a dilynwch y cyngor oddi ar y campws

Primo: Mae angen mewngofnod Prifysgol Aberystwyth oddi ar y campws

 

  • Cliciwch ar y ddolen cyhoeddwr byw, sef VLeBooks yn yr enghraifft hon

Oherwydd eich bod eisoes wedi mewngofnodi i Primo, bydd modd i chi ddarllen yr elyfr oddi ar y campws

Primo: Os nad ydych chi ar y campws, defnyddiwch VPN 

 

Mae nifer fach o adnoddau y mae angen i chi osod a rhedeg VPN GlobalProtect ar eich dyfais ar eu cyfer 

  • cliciwch ar y ddolen VPN i weld y cyfarwyddiadau ar gyfer sut i osod a rhedeg VPN GlobalProtect ar eich dyfais (rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i Primo yn gyntaf i alluogi eich mynediad i'r dudalen gyngor)

Ar ôl i chi wneud hynny

  • Cliciwch ar y ddolen cyhoeddwr byw, sef IBISWorld yn yr enghraifft hon

Bydd modd i chi ddarllen cynnwys o'r gronfa ddata hon oddi ar y campws.

 

Primo: Darperir gwybodaeth am fynediad yn y rhestr o gyfrineiriau ar-lein

 

  • Cliciwch ar rhestr o gyfrineiriau ar-lein ac yn y dudalen sy'n ymddangos cliciwch ar Rhestr o enwau defnyddwyr a chyfrineiriau adnodd-benodol
  • Nodwch y manylion ar gyfer yr adnodd yr ydych wedi dod o hyd iddo
  • Yn ôl ar dudalen canlyniad chwilio Primo, cliciwch ar y ddolen cyhoeddwr byw, sef E-gyfnodolion amrywiol yn yr enghraifft hon.
  • Defnyddiwch y manylion o'r rhestr o gyfrineiriau i ddarllen y cyfnodolyn / erthygl o gyfnodolyn oddi ar y campws.

Wrth chwilio adnoddau ar-lein eraill

Os ydych chi'n chwilio adnoddau ar-lein eraill efallai y gwelwch fotymau @aber neu Dod o hyd i gopi (a alluogir gan LibKey Nomad) yn cael eu dangos gyda'ch canlyniadau chwilio

  • cliciwch ar @aber neu Dod o hyd i gopi i wirio a yw'r adnodd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy Primo; os ydyw, dilynwch y cyngor awdurdodi fel y disgrifir uchod

Wrth ymweld â phrifysgol arall

Os ydych chi'n ymweld â phrifysgol arall, gallwch gysylltu eich cyfrifiadur eich hun â'u rhwydwaith diwifr eduroam. Bydd angen i chi osod Gwasanaeth Trawsrwydweithio Janet ar eich cyfrifiadur cyn i chi adael Aberystwyth. 

Pan fyddwch wedi mewngofnodi bydd modd i chi gael mynediad at adnoddau llyfrgell ar-lein fel pe baech ar y campws yn Aberystwyth.

-----------

Os ydych chi'n cael problemau cael mynediad at adnoddau ar-lein oddi ar y campws, darllenwch y cyfarwyddiadau datrys problemau sy'n cynnwys manylion ar sut i gysylltu â'r Llyfrgell.

 

Library, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk