Rwyn cael problemau gweld amserlen fy narlithoedd yn Amserlen ar-lein PA? (Staff)

Dim ond aelodau o staff PA sy'n gallu gwirio amserlenni staff ar y safle hwn https://ato.aber.ac.uk

Bydd angen i chi ganiatáu naidlenni yn eich porwr:

Internet Explorer

  • Cliciwch ar yr eicon cocsen ar frig y dudalen yn y gornel dde
  • Cliciwch ar Internet Options
  • O dan y tab Privacy, tynnwch y tic o'r blwch Pop-up Blocker
  • Cliciwch ar OK

Chrome

  • Cliciwch ar eicon dewislen Chrome ar frig y dudalen yn y gornel dde
  • Cliciwch ar Settings a chliciwch ar Show advanced settings
  • O dan Privacy, cliciwch ar Content Settings
  • O dan Pop-ups, dewiswch Allow all sites to show pop-ups

Firefox

  • Cliciwch ar ddewislen opsiynau Firefox ar frig y dudalen yn y gornel dde
  • Cliciwch ar Options
  • Cliciwch ar yr adran Content ar yr ochr chwith
  • Tynnwch y tic o'r blwch Block pop-up windows
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk