Sut allaf gyflymu'r broses digideiddio?

Er mwyn cynorthwyo'r tîm digideiddio i ddelio â'ch ceisiadau digideiddio yn gyflymach ac yn fwy effeithlon, sicrhewch bod eich rhestr ddarllen yn cael ei gwirio a'i chyhoeddi erbyn y dyddiadau cau canlynol:

Modiwlau Dysgu o Bell 30 Mehefin
 31 Gorffennaf 31 Gorffennaf
Modiwlau 1 a 2 (dysgir dros y ddau Semester) 31 Gorffennaf
Modiwlau Semester 2 30 Tachwedd

Ni ellir cadarnhau y bydd darlleniadau digidol ar gael mewn pryd ar gyfer addysgu i restrau a fydd yn cael eu cyhoeddi ar ôl y dyddiad cau.

Os oes angen i bennod neu erthygl gael ei ddigideiddio:

  • Rhowch yr adnodd ar y rhestr ddarllen Aspire fel Pennod (Sut mae gwneud hynny?) neu Erthygl (Sut mae gwneud hynny?)
  • Cliciwch ar y botwm drws nesaf i’r adnodd yr hoffech ei ddigideiddio.
  • Dewiswch Gwneud cais i ddigido

  • Llenwch yr holl feysydd sydd wedi’u marcio â *

  • Cliciwch ar Nesaf ar ôl llenwi’r holl feysydd
  • Rhowch Enw’r Cwrs a Chod y Cwrs os nad ydynt wedi’u llenwi’n awtomatig
  • Nesaf
  • Gwiriwch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir, yna cliciwch ar Nesaf
  • Cliciwch ar Cau ar y dudalen olaf
  • Bydd eich cais nawr yn cael ei gyflwyno i’r llyfrgell i’w brosesu
Library, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk