Sut mae creu ffolder Aseiniad Panopto ar gyfer modiwl? (Staff)
Mae ffolderi gyda mynediad cyfyngedig yn ddefnyddiol ar gyfer recordio cyflwyniadau ac arholiadau llafar yn uniongyrchol drwy Panopto.
Dim ond staff ar y cwrs Blackboard gaiff fynediad i ffolderi Asesu Panopto. Ni all myfyrwyr weld cynnwys y ffolderi Asesu.
Ewch i https://panopto.aber.ac.uk a mewngofnodi gan ddefnyddio Blackboard gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair PA.
- Ewch i Browse ar yr ochr chwith a My Folders
Cliciwch ar y botwm Add Folder - Rhowch enw i’r ffolder: e.e. cyflwyniadau
- Cliciwch ar enw’r ffolder
- Cliciwch ar y tri dot ar frig y sgrin ar yr ochr chwith
- Dewiswch Share
- Cliciwch ar Change ar frig y sgrin
- Cliciwch ar Stop Inheriting
- Cliciwch ar y groes drws nesaf i’r grŵp Viewer
- Cliciwch ar Save ac yna Done.
Nawr gallwch recordio i’r ffolder hon.
Elearning, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2472 Email: elearning@aber.ac.uk
Tel: 01970 62 2472 Email: elearning@aber.ac.uk
