Sut mae mewnosod dolen i leoliad gwahanol yn yr un dudalen we yn y CMS?
- Mewngofnodwch i'r CMS yn https://cms.aber.ac.uk/.
- Dewch o hyd i'r dudalen sydd angen ei golygu yn strwythur safle'r CMS (Sut mae gwneud hynny?).
- Cliciwch ar enw'r adran.
- Cliciwch ar y tab Content.
- Dewch o hyd i'r darn o gynnwys priodol lle dylid ychwanegu'r ddolen a chliciwch ar ei enw.
- Crëwch yr 'angor' (y man yr hoffech gysylltu ag ef):
- Rhowch eich llygoden ar y man yn y dudalen lle'r hoffech i'r angor fod.
- Cliciwch ar y botwm Insert/Edit Link yn y ddewislen a dewiswch 'Insert anchor'.
- Bydd y ffenestr Anchor yn ymddangos:
- Teipiwch enw eich angor newydd yn y blwch ID a chliciwch ar y botwm Save i'w ychwanegu.
- Byddwch nawr yn gweld bod symbol angor bach wedi ymddangos yn y golygydd cynnwys i farcio lleoliad yr angor hwn.
- Crëwch y ddolen:
- Teipiwch y testun a fydd yn cael ei ddefnyddio fel y testun i'r ddolen. Noder: Dylai testun dolen fod yn hunan-eglurhaol a dylai'r defnyddiwr wybod i ble mae'r ddolen yn mynd â hwy.
- Dewiswch y testun a chliciwch ar y botwm Insert/Edit Link yn y ddewislen. Dewiswch 'Link to external site'.
- Bydd y ffenestr Insert/Edit Link yn ymddangos:
- Rhowch enw eich angor gyda # o'i flaen yn y blwch URL.
- Peidiwch â gwneud unrhyw newidiadau eraill. Cliciwch ar y botwm 'Save' i ychwanegu'r ddolen.
- Mae eich dolen i fan arall yn eich tudalen nawr wedi'i chreu.
- Cliciwch ar y botwm 'Save changes' yn y brif ffenestr golygu cynnwys i gadw eich gwaith.
Noder: Er mwyn i'r newid fynd yn fyw bydd angen i'r cynnwys gael ei gymeradwyo.
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk
