Ble alla i ddod o hyd i ffurflen gais Cronfa Caledi Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth (Saesneg)?
Mae gwneud cais am gyllid caledi bellach yn haws gyda’n system gwneud cais ar-lein newydd. Mae Blackbullion hefyd yn darparu hyfforddiant cryno ar fedr ariannol, gyda chwisiau, i chi ymchwilio i’r pynciau a fydd yn eich helpu drwy eich gyrfa yn y brifysgol a thu hwnt.
Cofrestrwch gyda ‘Blackbullion’ ar wefan 'Blackbullion' gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost prifysgol llawn e.e. xxx1@aber.ac.uk, ac yna dewis cyfrinair gwahanol ar gyfer safle ‘Blackbullion’.
Pryd i wneud cais a’r amseroedd prosesu
Rydym yn awgrymu gwneud cais pan fyddwch wedi cyrraedd sefyllfa lle na allwch dalu rhent ar gyfer y mis nesaf neu gydag oddeutu £200 ar ôl i’w wario. Mae’r amser prosesu’n cymryd 2-3 wythnos, gan ddibynnu ar y galw, felly cofiwch hynny wrth benderfynu pryd i wneud cais.
Cyflwyno eich cais
Agorwch y tab ‘Funds’, yna dilynwch y camau i lenwi’ch cais. Bydd rhai o’r camau yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth a’i llwytho ar system ddiogel Blackbullion. Bydd disgwyl i chi lwytho tystiolaeth ar gyfer yr holl gyfrifon, gan gynnwys cyfrifon cynilo, cyfrifon rhyngwladol ac unrhyw gronfeydd neu gelloedd arian cyfredol o fewn rheini. Gofynnir i chi hefyd lwytho ‘hafan’ eich tudalen fancio neu ‘ddangosfwrdd’ yn dangos eich enw a manylion y cyfrif fel bod y balansau cyfredol ar gyfer eich holl gyfrifon / celloedd / cronfeydd i’w gweld yn glir.
Beth sy’n digwydd nesaf
Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais, bydd y system yn rhoi gwybod i’r aseswyr. Byddant yn adolygu eich cais a’r dystiolaeth yr ydych wedi’i llwytho. Caiff y dystiolaeth ei derbyn neu’i gwrthod. Os caiff y dystiolaeth ei gwrthod rhoddir gwybod i chi a chewch wybod pam hefyd.
Efallai y bydd aseswr yn gofyn i chi gwblhau tasg ychwanegol, neu gyflwyno rhagor o dystiolaeth. Os felly, bydd Blackbullion yn anfon e-bost i’ch cyfeiriad e-bost Prifysgol Aberystwyth yn egluro pa wybodaeth arall sydd ei hangen, felly gwiriwch eich e-bost nes eich bod yn cael canlyniad arfaethedig.
Pan fydd yr asesiad wedi gorffen, cewch e-bost gyda chanlyniad arfaethedig eich cais. Mae’n rhaid i lofnodwyr y gronfa gytuno â’r cais a chewch hysbysiad pellach, ffurfiol, sy’n cynnwys dyddiadau talu a ragwelir, os dyfernir y cyllid.
Cymorth i Fyfyrwyr, Canolfan Croesawu Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth, SY23 3FB
Ffôn: 01970 62 1761/2087 E-Bost: cymorth-myfyrwyr@aber.ac.uk
