Sut alla i ddychwelyd fy menthyciadau llyfrgell?
Os nad ydych yn Aberystwyth:
Gellir dychwelyd eich benthyciadau llyfrgell trwy ddefnyddio ein Gwasanaeth Dychwelyd Rhadbost - e-bostiwch gg@aber.ac.uk am fanylion
Os ydych yn Aberystwyth:
Gellir dychwelyd llyfrau llyfrgell/DVDS (nid offer) trwy ddefnyddio'r opsiynau canlynol::
- o fewn Llyfrgell Hugh Owen yn ystod Oriau Agor
- drwy'r slot Dychwelyd Llyfrau y tu allan i Lyfrgell Hugh Owen (Ar gael pan fydd y llyfrgell ar gau):
- i'r bin Dychwelyd Llyfrau y tu allan Y Sgubor, Fferm Penglais (ar gael 24/7):
-
drwy'r slot Dychwelyd Llyfrau o fewn Y Weithfan yn y dre (ar gael 24/7 i staff a myfyrwyr yn unig)
Gellir dychwelyd benthyciadau offer i'r ddesg ymholiadau yn Llyfrgell Hugh Owen yn ystod ein horiau craidd
Library, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk