Sut mae ychwanegu tudalen ar y we neu fideo ar-lein i restr ddarllen Aspire?
- Mewngofnodwch i Aspire (Sut mae gwneud hynny?)
- Mewn tab newydd ewch i'r dudalen we neu'r fideo ar-lein yr hoffech eu hychwanegu i restr ddarllen Aspire
- Cliciwch ar y botwm llyfrnod Aspire neu'r eicon estyniad Talis yn ffenestr eich porwr (Sut mae gwneud hynny?)
Bydd eich sgrin yn rhannu'n ddwy gyda'r ffurflen llyfrnodi ar y chwith
Os ydych chi'n ychwanegu tudalen we
- gosodwch y Math o Adnodd i: Tudalen we
Os ydych chi'n ychwanegu fideo ar-lein
- gosodwch y Math o Adnodd i: Dogfen clyweled
Yn olaf
-
Cliciwch ar Creu ac Ychwanegu i'r Rhestr i ychwanegu eich llyfrnod yn syth i restr bresennol (Sut mae gwneud hynny), neu
-
Cliciwch ar Creu os hoffech ychwanegu llyfrnod i'w ychwanegu at restr yn ddiweddarach (Sut mae gwneud hynny?)
---
Os ydych chi'n ychwanegu rhaglen Box of Broadcasts
- Noder nad yw Box of Broadcasts ar gael i fyfyrwyr a staff sydd dramor
- Cliciwch ar y botwm Rhannu o'r dudalen rhannu canlyniadau cyn ychwanegu'r rhaglen i Aspire
- Ychwanegwch y cyfarwyddyd hwn i'r Nodyn i'r Myfyrwyr (Sut mae gwneud hynny?):
Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, bydd angen ichi gofrestru ar gyfer Box of Broadcasts cyn gwylio – mae’r cyfarwyddiadau ar gael yma --- If you've not already done so, you need to register for Box of Broadcasts before viewing - instructions here: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=2875
Os ydych chi wedi ychwanegu fideo Vimeo o Drama Online, ychwanegwch y cyfarwyddyd hwn i'r Nodyn i'r Myfyrwyr (Sut mae gwneud hynny?):
Byddwch yn cael cais i fewngofnodi i Vimeo pan fyddwch yn clicio ar y botwm Gweld Ar-lein. Os nad oes gennych gyfrif Vimeo eisoes, gallwch gofrestru ar gyfer un Sylfaenol (am ddim). Byddant yn gofyn am eich enw, cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Peidiwch â defnyddio eich cyfrinair Aber --- You will be prompted to log in to Vimeo when you click the View Online button. If you don't already have a Vimeo account, you can register for a Basic (free) one. They will request your name, an email address and a password. Please do not use your Aber password.
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk