Sut alla i drefnu i fyfyrwyr neu staff y tu allan i'r DU gael mynediad at gynnwys Box of Broadcasts?

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan mewn cynllun peilot i roi mynediad i gynnwys Box of Broadcasts (BoB) i fyfyrwyr a staff y tu allan i'r DU. Erbyn hyn mae staff y Brifysgol yn gallu llunio rhestrau chwarae BoB i fod ar gael i'w gweld y tu allan i'r Deyrnas Gyfunol.

Mae rhai cyfyngiadau o ran beth y gellir ei rannu â myfyrwyr a staff y tu allan i'r DU

  • Peidiwch â chynnwys, "prif ffilmiau a gynhyrchwyd ar ôl 1 Ionawr 2000, neu bynciau diwylliannol-sensitif".
  • "Mae rhestrau chwarae wedi'u curadu sy'n cynnwys ffilmiau'n unig yn amodol ar gyfyngiadau. Bydd proses adolygu a chanllawiau 'Learning on Screen' ar waith i gynnal ansawdd y cynnwys". (Gweler rhan 4 o'r canllawiau peilot)

Mae 'Learning on Screen' hefyd wedi rhyddhau'r fideo hwn sy'n dangos sut i rannu cynnwys â myfyrwyr a staff y tu allan i'r DU, neu gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau hyn:

  • Cliciwch ar My BoB, Playlists yna New Playlist
  • Ychwanegwch enw i'r rhestr chwarae a dewiswch faes pwnc
  • Ticiwch y blwch Global enabled o dan y gosodiadau Territory
  • Cliciwch ar Create Playlist

I ychwanegu cynnwys i'r rhestr chwarae

  • Chwiliwch am raglen yr hoffech ei rhannu (Sut mae gwneud hynny?)
  • Cliciwch ar y teitl, cliciwch ar y botwm Add to Playlist, dechreuwch deipio enw'r rhestr chwarae a'i dewis pan fydd yn ymddangos yn y ddewislen, yna cliciwch ar Add

Gallwch gopïo'r rhestr chwarae o'r cyfeiriad gwe o'ch porwr a'i gludo i'w rhannu â myfyrwyr, er enghraifft mewn rhestr ddarllen modiwlau yn Aspire (Sut mae gwneud hynny?

Peidiwch â defnyddio VPN, na chynghori eich myfyrwyr i ddefnyddio VPN, i weld cynnwys Box of Broadcasts gan y byddai hyn yn torri telerau trwydded ERA Prifysgol Aberystwyth.

Library, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk