Sut mae gosod Pôl yn Vevox?
Y peth cyntaf sy'n rhaid i chi ei wneud yw creu Sesiwn yn Vevox. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm 'Create Session'. Rhowch enw i'ch Sesiwn (er enghraifft, cod y modiwl a dyddiad y seminarau yr hoffech ddefnyddio Vevox), yna cliciwch ar 'Create'.
Mae Vevox yn agor y sesiwn yn awtomatig ac yn eich gosod yn yr adran 'Polls' o'ch sesiwn.
Nawr gallwch greu polau drwy ddewis 'Create New' neu roi cynnig ar bolau enghreifftiol Vevox. Gallwch olygu'r rhain fel yr hoffech. Wedyn gallwch redeg eich pôl unrhyw bryd ar ôl dechrau'r Sesiwn. (Sut mae gwneud hynny?)
Os hoffech ychwanegu Pôl i Sesiwn sy'n bodoli eisoes, dewiswch y Sesiwn berthnasol yn eich Dangosfwrdd trwy glicio ar 'View Session'. Mae Vevox yn eich gosod yn yr adran 'Polls' o'ch sesiwn yn awtomatig ac yna gallwch barhau fel yr eglurir uchod.
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk