Sut mae ychwanegu gweinyddwyr ychwanegol at fy mlwch post a rennir?

Dim ond gweinyddwyr cyfredol all ychwanegu caniatâd gweinyddwr ar gyfer defnyddwyr eraill.

 

Mae gan weinyddwyr y gallu i ychwanegu neu ddileu hawliau mynediad ar gyfer y blwch post. Argymhellir bod gan flychau post a rennir 2 neu 3 gweinyddwr.

 

  • Mewngofnodwch i MyAccount ac ewch i Newid caniatâd ar gyfer fy nghyfrif ebost (neu defnyddiwch y llwybr byr yma)
  • Dewch o hyd i'r blwch post cywir o'r gwymplen.
  • O dan Caniatâd Blwch Post dewiswch Ychwanegu Caniatâd Blwch Post.
  • Yn y maes Defnyddiwr, teipiwch enw defnyddiwr y person rydych eisiau ychwanegu.
  • Yn y maes Caniatâd, dewiswch Admin.
  • Cliciwch Ychwanegu.
  • Bydd y defnyddiwr yn cael e-bost i roi gwybod iddynt eu bod wedi cael caniatâd gweinyddwr ar gyfer y blwch post, ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i reoli'r caniatâd mynediad.

 

Sylwch y bydd unrhyw newidiadau yn cymryd hyd at awr i ddod yn weithredol.

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk